top of page
Jamila Scott Press Shot.jpeg
'Live A&R' gyda Jamila Scott (Polydor / Warner Records / Tileyard / Into the Blue)
Dydd Gwener Mawrth 3 - 2:45pm - 4:15pm - PDC Theatr

Neidiwch ar y cyfle anhygoel yma i dderbyn adborth byw ar dy gerddoriaeth o Jamila Scott (Polydor/ Warner Records/ Tileyard Music), sydd wedi arwyddo ac A&R nifer o artistiaid gan gynnwys Lion Babe, Years & Years ac Ella Eyre. Efo dros 13 blwyddyn o brofiad yn y diwydiant cerddoriaeth, a nawr yn rhedeg cwmni rheoli ei hun, Into The Blue, mae Jamlia wedi’i lleoli’n berffaith i roi eich gyrfa ar y trac cywir. Mae’n gyfle hollbwysig i artistiaid sy’n dod i’r amlwg a’r rhai sy’n dymuno fod yn rhan o’r diwydiant cerddoriaeth i fynychu.

Cyflwynwch eich cerddoriaeth YMA am siawns i dderbyn adborth o Jamila. Nodwch, os cewch eich dewis ar y rhestr fer, mae’n bosib byddwch yn cael eich gwahodd i siarad â Jamila o flaen cynulleidfa byw.

 

Amdano Jamila

 

Mae gan Jamila Scott dros dair ar ddeg flynedd o brofiad yn y diwydiant cerddoriaeth, ar ôl weithio yn Polydor, Warner Records a chwmnïau rheoli fel Method Records a Tileyard Music. Arwyddodd a A&R-odd nifer o artistiaid, gan gynnwys Lion Babe a Years & Years. Mae Jamila nawr yn rhedeg cwmni rheoli ei hun, Into The Blue lle mae hi’n rheoli Melle Brown, Jack Kane, Halfrhymes a Hannah Yadi.

 

Yn ochr yn ochr i’w dyletswyddau rheoli ac A&R mae Jamila wedi rhedeg blog tastemaker Cruel Rhythm ers 2011 - credydwyd y blog efo darganfod Disclosure ymhlith eraill, a gweithiodd Jamelia efo partneriaid fel Sonos a  Hype Machine ar ddigwyddiadau wnaeth weld perfformiadau artistiaid a oedd yn gynnar yn eu gyrfaoedd efo perfformwyr fel SZA, Kelis, Dua Lipa a Stormzy yn SXSW, Great Escape a mwy.

BEACONS LOGO NEW 2022 BLACK_2.png
Creative Wales Colour Positive CMYK.jpeg
bottom of page