

Sut i Fod yn Llwyddiannus Heb Symud i'r Ddinas fawr
Dydd Iau Mawrth 2 - 3:45pm - 4:30pm - The Gate, Prif Ystafell
“Bydd rhaid i chi symud i'r ddinas i fod yn llwyddiannus!” rhywbryd yn eich bywyd byddwch yn clywed y datganiad yma os ydych yn ystyried gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth.
Rydyn ni yma i chwalu’r myth a thrafod gyda’n panelwyr am sut brofiad yw cael gyrfa ym myd cerddoriaeth pan fyddwch chi’n siarad iaith leiafrifol ac yn tyfu lan yng nghefn gwlad Cymru.
Ymunwch â Rhys Grail (Artist/ffotograffydd ac aelod o’r band Gwilym), Owain Williams (Klust Music) a’r gwesteiwr Tegwen Bruce-Deans (newyddiadurwr/awdur llawrydd) wrth iddynt drafod eu llwyddiant a’u brwydrau o fewn y byd cerddoriaeth a chreu gyrfa y tu mewn a thu allan i Gymru.
Bydd y sgwrs yma'n cael ei chyflwyno yn y Gymraeg, gyda chyfieithiad Saesneg ar gael.
​
Amdano’r Panel:
​
Tegwen Bruce-Deans
Yn wreiddiol o Lundain ond wedi’i magu yng nghefnwlad Maesyfed, mae Tegwen Bruce-Deans bellach yn byw ym Mangor, lle mae hi'n gweithio fel ymchwilydd a chynhyrchydd cynnwys i BBC Radio Cymru. Bu’n ymddiddori mewn cerddoriaeth Gymraeg ers iddi fod yn ifanc, wrth fynychu gigs yn aml gyda’i thad. Dechreuodd gyfuno ei hangerdd i ysgrifennu gyda’i chariad at gerddoriaeth ar ôl cael ei hysgogi gan ddiffyg cynrychiolaeth fenywaidd yn y sîn cerddoriaeth Gymraeg.



