top of page
profile-1655800278-bb94d01ccbd9aedbd4c3147d96b9681f (1).jpg
Sut i rymuso pobl creadigol dosbarth gweithiol: Sgwrsio â Tori West.
Dydd Gwener Mawrth 3 - 1:30pm - 2:30pm - PDC Theatr

Cwrdd â Tori West, sefydlwr cylchgrawn BRICKS, sy’n creu lle i’r rhai sy’ ddim yn ffitio i mewn i strwythurau normadol, i ddarparu gwasanaethau creadigol am brisiau fforddiadwy. Mae Tori yn berson creadigol amlddisgyblaethol gyda phrofiad mewn ysgrifennu, cyflwyno, creu cynnwys, a phartneriaethau brand. Yn wreiddiol o Gaerffili a bellach yn byw yn Llundain, mae hi'n gyhoeddwr, awdur a golygydd y cylchgrawn ffasiwn ffeministaidd BRICKS, lansiodd y prosiect gyda'r awydd i gwestiynu a newid y diwydiant trwy hyrwyddo gwaith a lleisiau pobl ymylol.

Ers ei rifyn cyntaf, mae BRICKS wedi ennill enw iddo'i hun fel cyhoeddiad annibynnol pwysig yn cael eu harwain gan y gymuned cwîr a dosbarth gweithiol, gyda sêr y clawr blaenorol yn cynnwys y frenhines drag Sasha Velor a'r cerddor rhyw bositif Brooke Candy. Gan ddod o deulu dosbarth gweithiol yng Nghaerffili, mae West hefyd wedi dod yn adnabyddus am ei natur agored ynghylch y brwydrau ariannol y mae pobl ifanc greadigol yn eu hwynebu’n aml, yn aml yn trafod ei gwaith fel awdur llawrydd a glanhawr rhan-amser, gan gyflwyno portread gonest a realistig ohoni ei hun ar gyfryngau cymdeithasol yn hytrach na dim ond postio ei llwyddiannau.

Gyda dros 250k o ‘likes’ ar TikTok a dilynwyr ymroddedig ar Instagram wedi cael partneriaethau brand sy'n cynnwys Gucci, Monki, H + M, Depop, Adobe, Apple a Tinder.

Ymunwch â ni wrth i ni drafod gyrfa Tori hyd yn hyn, sut gallwch chi gynnwys croestoriad y tu allan i'ch un chi a dyfodol pobl greadigol dosbarth gweithiol.

Amdano Tori West

Gyda dros 250k o ‘likes’ ar TikTok a dilynwyr ymroddedig ar Instagram, Mae Tori yn berson creadigol amlddisgyblaethol gyda phrofiad mewn ysgrifennu, cyflwyno, creu cynnwys, a phartneriaethau bran  dros amryw o faterion gan gynnwys cynaladwyedd, tech a chynwysoldeb. Mae hi’n angerddol iawn am addysg a mae hi wedi cael y dasg o gynnal gweithdai, sgyrsiau panel a chynnig ymgyngoryddion ar gyfer pob math o sefydliadau o ysgolion i brandiau fawr am faterion sy’n cynnwys cynaladwyedd o fewn ffasiwn, gwleidyddiaeth, ffeministiaeth, iechyd meddwl a diwylliant Cymreig. Cyn-cleiens + wasg yn cynnwys The Face, Gucci, Monki, H+M, Adobe, Apple a Tinder.

BEACONS LOGO NEW 2022 BLACK_2.png
Creative Wales Colour Positive CMYK.jpeg
bottom of page