top of page
AMLEN STAMP.jpg

Prosiect Ymchwil a Datblygu newydd i'r Diwydiant Cerddoriaeth laith Gymraeg

Mae Amlen wedi esblygu o brosiect Ymchwil a Datblygu, lle cafodd pobl rhwng 18-25 eu cyfweld a gofynnwyd iddynt mynychu grwpiau ffocws ledled Cymru am gerddoriaeth Gymraeg yng Nghymru.

 

Erbyn hyn, bwriad Amlen yw ateb y cwestiynau a ofynnwyd gennym yn yr adroddiad.

Rydyn ni eisiau siapio’r sîn yng Nghymru, gan ddefnyddio geiriau pobl ifanc.

296787000_777594227007401_9008760032580821784_n.jpg

Rheolwr Prosiect

Glyn Rhys-James

Mae Glyn yn gerddor, yn beiriannydd sain ac yn llawrydd yn y diwydiant cerddoriaeth o Aberystwyth. Mae wedi byw yng Nghaerdydd ers 2016 ar ôl symud gyda’i fand, Mellt. Dyfarnwyd Albwm Cymraeg y Flwyddyn i’w halbwm cyntaf, Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc (2018), a chyrhaeddodd restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yr un flwyddyn.

 

Astudiodd ym Mhrifysgol De Cymru, gan raddio gyda gradd mewn Peirianneg Sain yn 2019. Ers hynny, mae Glyn wedi gweithio gyda nifer o artistiaid Cymraeg addawol fel Papur Wal, Adwaith, Sywel Nyw a Los Blancos.

 

Mae Glyn wedi bod yn gweithio gyda Beacons Cymru ers mis Mawrth 2022 ac mae’n frwd dros hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’r sin gerddoriaeth anhygoel sydd gan Gymru i’w gynnig.

​

Cyswllt: office@beacons.cymru

Lewys Portrait.jpg

Rheolwr Prosiect
Lewys Siencyn

Mae Lewys yn gerddor a chynhyrchydd yn wreiddiol o Ddolgellau a adawodd brifysgol Caerdydd yn 2022 gyda gradd mewn cerddoriaeth ac arbennigedd mewn perfformio a chyfansoddi. Fe ddaw i brosiect Amlen gyda throed ym meysydd cyfoes a chlasurol, a phrofiad helaeth ym myd cerddoriaeth a chyfryngau Cymru, yn perfformio ar lwyfannau
nodedig calendr y sîn gyda llond llaw o artistiaid gan gynnwys HMS Morris, Sachasom, a’i fand, Lewys (WRKHOUSE, bellach). Mae ei waith llawrydd hefyd yn cynnwys gwaith y tu ôl i’r llen, yn aelod brŵd o bwyllgor trefnu Sesiwn Fawr Dolgellau ers sawl blwyddyn, ac, yn fwy
diweddar, yn gweithio fel swyddog prosiectau a mentor gyda Cerdd Gymunedol Cymru.

Diolch i’n cyllidwyr:

Youth-Music.png
bottom of page