
ENGLISH

Y Gronfa Birthplace
Cyflwynir gan Novo Amor & Beacons Cymru

Y Gronfa Birthplace
Cyflwynir gan Novo Amor & Beacons Cymru
Pam fod y Gronfa yma yn bodoli
“Rhoddodd cerddoriaeth ffordd i mi fynegi fy hun, i gysylltu â phobl, ac i adeiladu bywyd oedd yn teimlo'n driw i bwy ydw i. Mae wedi dod â llawenydd, pwrpas a chymuned i mi - ac rydw i eisiau i eraill gael yr un cyfle.
Creais y Gronfa Birthplace oherwydd rwy’n gwybod sut deimlad yw cael gwybod nad oes gennych chi botensial. Rwyf am helpu i newid hynny i eraill - i greu mwy o le ar gyfer creadigrwydd, cyfle, a chred, yma yng Nghymru.”
— Ali Lacey (Novo Amor)
Er mwyn cefnogi'r genhedlaeth bresennol a'r genhedlaeth nesaf o gerddorion ledled Cymru, mae'r Gronfa Birthplace yn cynnig grantiau hyd at £2,500 yr un i ddeg ymgeisydd llwyddiannus. Os ydych chi'n artist, band, neu'n gynhyrchydd cerddoriaeth, mae'r gronfa yma i roi'r amser, y gofod a'r adnoddau i chi ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf: eich cerddoriaeth.
Cefnogi Crewyr Cerddoriaeth Newydd yng Nghymru

PWY SY'N GALLU GWNEUD CAIS?
GALL Y GRONFA GEFNOGI
NI FYDD Y GRONFA YN ARIANNU
Rydych chi'n gymwys os:
-
Rydych chi rhwng 18-35 oed ar adeg y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais
-
Rydych yn byw yng Nghymru (bydd angen i chi ddarparu prawf o gyfeiriad)
-
Rydych chi'n creu cerddoriaeth wreiddiol - mae hyn yn cynnwys artistiaid, bandiau a chynhyrchwyr cerddoriaeth
-
Mae gennych gyfrif banc yn y DU
-
Os ydych yn gwneud cais fel band, rhaid bod o leiaf 50% o aelodau fod rhwng 18-35 oed a rhaid i bob aelod fyw yng Nghymru.
Gwneud cais am grant i helpu gydag ystod eang o anghenion creadigol ac ymarferol, gan gynnwys:
-
Prynu offer stiwdio
-
Gwasanaethau stiwdio: cynhyrchu, cymysgu, mastering
-
Amser i ffwrdd o'r gwaith neu roi gofal i ganolbwyntio ar ysgrifennu, recordio, ymarfer, neu gynhyrchu
-
Datblygu syniad creadigol newydd neu arbrofol
-
Mentora i gefnogi eich gwaith
Peidiwch â gwneud cais am gymorth gyda:
-
Treuliau teithio
-
Dylunio a chynhyrchu nwyddau
-
Marchnata, cysylltiadau cyhoeddus, neu ymgyrchoedd plygio
-
Mae'r gronfa hon wedi'i neilltuo i gefnogi'r broses greadigol, nid hyrwyddo neu werthu.
Dyddiadau Pwysig
Ceisiadau ar agor: Mehefin 2, 2025
Dyddiad cau i wneud cais: Gorffennaf 10, 2025, am 11:59 PM
Does dim angen arian cyfatebol
Nid oes angen i chi gyfrannu dim o'ch arian eich hun na sicrhau arian cyfatebol i wneud cais. Rydym yn annog ceisiadau gan rhai sydd methu ariannu eu prosiectau.