
ENGLISH


HONEY SESSIONS
Beth yw Honey Sessions?
Mae Honey Sessions yn brosiect cydweithredol cyffrous sy’n anelu at gefnogi ac ysbrydoli cyfansoddwyr, artistiaid, cynhyrchwyr a rheolwyr prosiect ifanc sy’n gweithio ym myd hip hop, rap, grime, r’n’b a cherddoriaeth bop yng Nghymru.
Mae Honey Sessions yn rhoi cyfle unigryw i artistiaid ifanc a chynhyrchwyr ifanc gydweithio i wneud cerddoriaeth newydd sbon ac i ehangu eu gwybodaeth am y diwydiant trwy ddysgu gan ystod o weithwyr proffesiynol proffil uchel y diwydiant.
Mae Honey Sessions yn rhoi pwyslais ar artistiaid a chynhyrchwyr sy'n creu cerddoriaeth MOBO - Music of Black Origin - a bydd yn tynnu sylw at grewyr newydd yn y genre cynhwysfawr hwn.
Mae Honey Sessions wedi'i ddatblygu mewn ymgynghoriad ag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol y diwydiant sy'n gweithio'n benodol mewn genres MOBO. Mae Sizwe Chitiyo wedi teimlo ers tro bod angen cefnogaeth i gerddoriaeth MOBO yng Nghymru. ‘Mae pobl ifanc sy’n creu cerddoriaeth mewn genres MOBO wedi bod â diffyg cefnogaeth mewn llawer o feysydd o’r diwydiant yn y gorffennol ac mae Honey Sessions wedi’u cynllunio i ddarparu llwyfan ar gyfer creadigrwydd a rhoi gwybodaeth i’r cerddorion newydd hynny, yn ogystal â chreu rhwydwaith newydd o arbenigedd diwydiant sydd â proffil uchel. Rydyn ni eisiau i’r Honey Sessions ddarparu’r gofod a’r gefnogaeth i gymuned i’w helpu i ffynnu!’
Daeth lansiad Honey Sessions yn 2021 â chydweithrediadau gwych, mewnwelediad hanfodol a llwyfan i 13 o artistiaid a chynhyrchwyr nodedig.
Cliciwch yma i ddod yn aelod o Beacons Cymru heddiw.




