top of page
SUMMIT BACKGROUND.jpg
YPN Final.jpg
“Mae’n anrhydedd cael bod yn llysgennad i Beacons Cymru! Mae meithrin ac ysbrydoli talent ifanc yn dod yn un o’r pethau agosaf at fy nghalon wrth i mi fynd yn hŷn... Wedi byw bywyd na chredais erioed oedd yn bosibl, rwyf am helpu i ddangos i gerddorion ifanc Cymreig y gall cerddoriaeth arwain at lwyddiant, cysylltiad, a chyfoethogiad personol – rwy’n credu mai Beacons Cymru yw’r cam cyntaf tuag hynny. Fel rhywun sy'n perfformio'n aml a fel cyn-aelod o'r prosiect Young Promoters Network, rwy'n ymwybodol o ba mor bwysig y gall y prosiectau hyn fod yn uniongyrchol, ac rwy’n ddiolchgar i fod yn rhan o’r fenter.”

Lucas Woodland

Holding Absence

Other Opportunities - Final.JPG
SUMMIT BACKGROUND.jpg

EIN EFFAITH

Ers 2010, rydym wedi cysylltu pobl ifanc â'r diwydiant cerddoriaeth mewn ffyrdd arloesol. Yn ystod 2022-23 cafodd ein gwaith effaith gadarnhaol ar fywydau 799 o bobl ledled Cymru; 262 ohonynt wedi eu cyflogi a'u talu fel gweithwyr llawrydd, a 531 ohonynt yn 30 oed neu iau.

Mae ein heffaith yn amrywio o fagu hyder mewn hunanfynegiant a hunanwerth, a datblygu sgiliau newydd ar gyfer y gweithlu, hyd at wella gwead cymunedol a hyrwyddo iechyd meddwl da. Rydym yn cydweithio â phartneriaid, gweithwyr proffesiynol, rhanddeiliaid a chyrff addysgol er mwyn datblygu sector gerddoriaeth lewyrchus a theg yng Nghymru. O ganlyniad i’n gwaith, mae ecosystem diwydiant cerddoriaeth Cymru cefnogi a datblygu mewn ffyrdd na chyflawnwyd erioed o'r blaen.

bottom of page