
ENGLISH


RESONANT
Beth yw Resonant?
Mae Resonant yn brosiect arloesol sy’n grymuso pobl o rhywiau ymylol i weithio y tu ôl i’r llen yn y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg.
Mae Resonant yn rhoi cyfle cyffrous i fenywod ifanc, dynion traws, unigolion anneuaidd ac unigolion sydd ddim yn cydymffurfio â rhyw i gael mynediad i gymuned newydd o fodelau rôl a chyfoedion, mannau dysgu diogel, pecynnau hyfforddi pwrpasol a chymorth cyfannol. Mae cyfranogwyr Resonant yn cael mewnwelediad gwerthfawr i amrywiaeth o rolau tu ôl i'r llenni yn y diwydiant cerddoriaeth gan gynnwys sain byw, hyrwyddo, goleuo llwyfan a chynhyrchu cerddoriaeth.
Datblygwyd Resonant gan y cerddor, technegydd sain a Swyddog Beacons Cymru, Yasmine Davies. Mae Yasmine wedi teimlo ers tro bod angen cymorth i bobl ymylol sydd â diddordeb yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. Mae Yasmine yn esbonio:
"Rwyf wedi gwybod bod y diwydiant yn brin o amrywiaeth ers i mi ddechrau dilyn gyrfa yn y maes. Mae hefyd wedi dod yn amlwg i mi nad yw pobl o rhywiau ymylol yn cael yr un cyfleoedd nac anogaeth i ymgysylltu â thechnoleg, cynhyrchu neu hyrwyddo cerddoriaeth yn y ffordd y mae dynion cis yn eu cael. Fy nod yw ysbrydoli dynion traws, menywod, pobl anneuaidd ac unigolion sydd ddim yn cydymffurfio â rhyw gario 'mlaen ac i fod yn uchelgeisiol. Rwy'n anelu at wneud hyn trwy ddarparu mynediad at wybodaeth am y diwydiant, rhwydwaith cryf a mwy o gyfleoedd tra'n sicrhau lle diogel i bawb deimlo'n gyfforddus. Felly anaml y gwelwn bobl ar y cyrion yn meddiannu gofod ar y llwyfan ac mae llai fyth yn gweithio y tu ôl i'r llenni. Rwy’n gobeithio y bydd Resonant yn rhan o greu’r newid hir-ddisgwyliedig hwn i’r sector cerddoriaeth fyw yng Nghymru.”
Yr hyn y mae’r prosiect yn ei ddarparu:
- Gweithdai'r diwydiant cerddoriaeth (mewn amrywiaeth o rolau allweddol yn y diwydiant cerddoriaeth fyw) dan arweiniad gweithwyr proffesiynol y diwydiant cerddoriaeth o'r rhywiau ymylol
- Mentora gan weithwyr proffesiynol y diwydiant cerddoriaeth o rywiau ymylol
- Cefnogaeth gyfannol gyda hyfforddwr datblygu / cefnogaeth iechyd meddwl dewisol
- Cyfleoedd cysgodi mewn lleoliadau cerddoriaeth fyw sefydledig
- Mynediad i rwydwaith newydd o gyfoedion a gweithwyr proffesiynol y diwydiant cerddoriaeth
- Mannau diogel i ddysgu a thyfu
A mwy…
Byddwch ymhlith y cyntaf i ddarganfod pryd y bydd ceisiadau am Resonant yn ailagor drwy ddod yn aelod o Beacons Cymru heddiw.
