
ENGLISH


Cyfle Tâledig i Gerddorion a Chynhyrchwyr Sesiwn
Mae Beacons Cymru yn falch iawn o gyhoeddi cyfle cyffrous i gerddorion sesiwn a chynhyrchwyr y dyfodol trwy Gymru i fynd gydag artistiaid o Brosiect Forté mewn cydweithrediad gyda PPL Giving. Ym mis Gorffennaf 2025, bydd tri artist unigol yn cael cwmni detholiad o gerddorion sesiwn a chynhyrchwyr i drefnu a recordio trac mewn stiwdio broffesiynol.
A’i dyma’r cyfle i chi?
Ni'n edrych am:
-
9 cerddor sesiwn
-
3 cynhyrchydd
i fynd gyda 3 artist unigol o deulu presennol Forté. Ar y cyd ag artist, byddwch yn cydweithio i drefnu, ymarfer, a recordio trac mewn stiwdio recordio broffesiynol.
Am bwy ydyn ni’n edrych?
Rydym yn chwilio am ddarpar gerddorion sesiwn a chynhyrchwyr sydd wedi'u lleoli ledled Cymru. Mae gennym ddiddordeb mewn gweithio gyda, ond heb fod yn gyfyngedig i:
-
Drymwyr
-
Offerynnau llinynnol
-
Offerynnau allweddellau
-
Offerynnau pres
-
Baswyr
-
Gitaryddion
-
Cantorion cefndir
-
Cynhyrchwyr mewn unrhyw genre
-
Unrhyw offeryn arall
Pa gyfleoedd gewch chi?
-
Cyfle cyflogedig (ar gyfer gwaith sesiwn a/neu waith cynhyrchu)
-
Gweithdai a dosbarthiadau meistr defnyddiol mewn gwaith sesiwn, recordio, cynhyrchu ar gyfer artistiaid a busnes cerddoriaeth
-
Sesiwn ar-lein ar PPL gyda chanllawiau ar sut i gofrestru
-
Sgil proffesiynol a chyfle i ddatblygu rhwydwaith
-
Trac llawn wedi'i gynhyrchu a'i ryddhau trwy label Beacons Cymru gyda'ch enw yn y credydau
-
Costau teithio wedi'u had-dalu
Cymwysterau:
-
18+ oed
-
Wedi'i leoli yng Nghymru
-
Bod â lle ac argaeledd ar gyfer ymarferion a recordio ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2025 (ar gyfer cerddorion sesiwn)
-
Bod â chapasiti ac argaeledd ar gyfer cynhyrchu, cymysgu a meistroli gwaith ym mis Gorffennaf ac Awst 2025 (ar gyfer cynhyrchwyr)
Dyddiad cau:
23:59, 11eg o Fai 2025.
Tâl yn seiliedig ar gyfraddau'r Musicians Union.
PWYSIG: Mi fydd angen recordiad sain neu fideo o'ch perfformiad / gwaith er mwyn i ni allu prosesu'ch cais. Atodwch fel dolen breifat YouTube / Soundcloud yn y maes gofynnol isod.
Mwy o wybodaeth am PPL:
PPL yw cwmni trwyddedu cerddoriaeth y DU ar gyfer dros 140,000 o berfformwyr a deiliaid hawliau recordio. Mae PPL yn casglu ac yn dosbarthu arian ar ran perfformwyr a chwmnïau recordio at ddefnydd eu cerddoriaeth wedi'i recordio. Mae aelodaeth PPL am ddim ac yn gyfle gwych i gerddorion sesiwn gael eu talu am eu gwaith perfformio.
Mwy o wybodaeth am Brosiect Forté:
Mae Forté Project yn gynllun datblygu artistiaid unigryw sydd wedi helpu’n llwyddiannus i ffeindio a chefnogi cerddoriaeth newydd gyffrous sy’n dod i’r amlwg o Gymru. Ers ei sefydlu yn 2015, mae’r cynllun datblygu artistiaid blynyddol arloesol hwn wedi creu model cynhwysfawr i rymuso a chodi 10 act gerddorol ifanc mewn moment hollbwysig yn eu gyrfaoedd.