top of page
SUMMIT BACKGROUND.jpg
YPN Final.jpg
SUMMIT BACKGROUND.jpg

YPN

Beth yw'r Rhwydwaith Hyrwyddwyr Ifanc (YPN)?

 

Wedi'i sefydlu yn Rhondda Cynon Taf yn 2010, a bellach ledled Cymru, mae'r Rhwydwaith wedi lansio nifer o yrfaoedd yn y diwydiant cerddoriaeth. Mae’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc 18-25 oed ledled Cymru ddatblygu eu sgiliau fel hyrwyddwyr, creu rhwydweithiau diwydiant newydd, cynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw, a chefnogi eu sin gerddoriaeth leol.

Nod yr YPN yw grymuso pobl ifanc trwy ddarparu sgiliau newydd iddynt, gan wella eu dyheadau gyrfa o fewn y sector cerddoriaeth fyw, tra'n hybu hunan-barch a hyder. Mi newidiodd prosiect YPN i fod yn brosiect dros Gymru gyfan nol yn 2022, ac mae wedi cefnogi llawer o ddarpar hyrwyddwyr ifanc ledled y wlad.
 
Yr hyn y mae’r prosiect yn ei ddarparu: 

- Cyfle i ddatblygu sgiliau newydd mewn rheoli digwyddiadau byw.
- Cyllid i dalu costau cynnal digwyddiad.
- Mynediad i rwydwaith newydd o gyd-hyrwyddwyr a gweithwyr proffesiynol eraill yn y diwydiant.
- Hyfforddiant proffesiynol, cefnogaeth datblygiad personol, mentoriaeth a chyngor 1-i-1 

 

Byddwch ymhlith y cyntaf i ddarganfod pryd y bydd ceisiadau ar gyfer yr YPN yn ailagor drwy ddod yn aelod o Beacons Cymru heddiw. 

bottom of page