top of page
backgroundcropped

Hyfforddiant Diwydiant Cerddoriaeth Llawr Gwlad 

Abertawe | Caerdydd | Casnewydd

web copy.jpg
BEACONS PARTNERS.jpg

Y Gronfa Birthplace

Cyflwynir gan Novo Amor & Beacons Cymru

Pwy ni'n chwilio am?

Ni'n chwilio am bobl ifanc brwdfrydig sy'n caru cerddoriaeth ac esisiau'r cyfle i ddysgu sgiliau newydd ac ehangu ar rhwydwaith yn y diwydiant cerddoriaeth.

  • Rhwng 18 a 30 oed 

  • Wedi'ch lleoli naill ai yng Nghaerdydd, Casnewydd neu Abertawe 

  • Â diddordeb yn y diwydiant cerddoriaeth ac awydd i ddysgu  

  • Argaeledd i fynychu sesiynau ar-lein misol, gweithdai wyneb yn wyneb a sifftiau cysgodi yn eich ardal  

  • Dyddiadau allweddol: dydd Llun cyntaf ac olaf y mis ar gyfer cyfarfod wyneb yn wyneb ac ar-lein  

Os yw hyn yn swnio bach fel chi, byddem wrth ein bodd pe baech yn gwneud cais am y cyfle hwn. Unrhyw gwestiynau neu anghenion hygyrchedd? Cysylltwch â ni, rydym yma i helpu. hello@beacons.cymru

Wyt ti rhwng 18-30 oed, â diddordeb mewn gweithio y tu ôl i'r llenni yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru ac wedi'ch lleoli yng Nghaerdydd, Casnewydd neu Abertawe? Rydym yn lansio llinyn newydd o'n rhaglen Aelodaeth: Hyfforddiant Diwydiant Cerddoriaeth Llawr Gwlad pwrpasol, che mis wedi'i chynllunio i gefnogi a datblygu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.

Bydd y rhaglen hon yn rhoi'r sgiliau ymarferol, yr hyfer a'r profiad yn y diwydiant sydd eu hangen ar unigolion i symud ymlaen i gyflofaeth gynaliadwy o fewn y sector cerddoriaeth fyw a diwydiannau creadigol ehangach.

Rydym wedi ymuno â Chlwb Ifor Bach (Caerdydd), Le Pub a'r Corn Exchange (Casnewydd) a'r Bunkhouse (Abertawe) i gynnig gweithdai, hyfforddiant ar-lein a dosbarthiadau meistr pwrpasol.

Hyfforddiant Diwydiant Cerddoriaeth Llawr Gwlad 

GRAIN LAYER-USE SCREEN AS OVERLAY EFFECT.jpg

YDW I’N GYMWYS?

BETH NI’N CHWILIO AM?

BETH YW’R YMRWYMIAD?

Rhaid i chi fod yn 18–30 oed ac yn byw yn ardaloedd awdurdod lleol Caerdydd, Casnewydd neu Abertawe. Dylech fod â diddordeb mewn cerddoriaeth a gyrfaoedd creadigol.

 

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol yn y diwydiant.

Rydym yn chwilio am bobl chwilfrydig, llawn cymhelliant a brwdfrydedd sydd eisiau datblygu sgiliau newydd, meithrin hyder, cwrdd â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant ac archwilio cyfleoedd y tu ôl i’r llenni mewn cerddoriaeth.

Mae’r rhaglen yn rhedeg am 6 mis, gan gyfuno sesiynau ar-lein, gweithdai wyneb i wyneb, mentora, cysgodi a mynediad at gyfleoedd â thâl yn y diwydiant.

 

Bydd angen i chi ymrwymo i sesiynau a chyfleoedd yn rheolaidd yn eich ardal leol.

Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau

23:59 Dydd Sul 6 Medi 2026

Key Dates

Dyddiad Dechrau'r Hyfforddiant: Llun 21 Medi 2026

Dyddiad Gorffen y Rhaglen Hyfforddi: Llun 29 Mawrth 2027

GWYBODAETH PELLACH

Gadewch i'n Rhaglen   Hyfforddiant yn y Diwydiant Cerddoriaeth Llawr Gwlad   lunio eich dyfodol
wedi'i wneud yn bosibl trwy gefnogaeth
LOGOS PNG_edited_edited_edited_edited.jpg
bottom of page