
ENGLISH


SUMMIT
Beth yw Summit?
Summit yw cynhadledd flynyddol diwydiant cerddoriaeth Beacons Cymru. Bob blwyddyn, ni'n dod â siaradwyr ysbrydoledig, gweithdai, cerddoriaeth fyw a chyfleoedd rhwydweithio i'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth neu'n dymuno gweithio ynddo.
Os ydych chi’n ymwneud â cherddoriaeth ar unrhyw lefel ac yn gobeithio cael gwell dealltwriaeth o’r diwydiant cerddoriaeth – fel artist, cynhyrchydd, rheolwr, hyrwyddwr, myfyriwr, darpar weithiwr proffesiynol neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn dilyn gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth – dewch draw i’n Summit nesaf i ddarganfod mwy gan arbenigwyr blaenllaw yn y diwydiant.
I gael syniad o'r hyn i'w ddisgwyl, edrychwch yn ôl ar gynhadledd y llynedd yma.
Mi fydd Summit gan Beacons Cymru yn dychwelyd yn gynnar yn 2026.
Byddwch ymhlith y cyntaf i ddarganfod sut i gymryd rhan yn Summit drwy ddod yn aelod o Beacons Cymru heddiw.