Cerddoriaeth O Gymru: Arloesi Newid
Dydd Iau Mawrth 2nd - 12:00pm - 5:45pm - The Gate, Stwdio Dawns
Cyflwynir gan Beacons Cymru fel rhan o gynhadledd flynyddol y diwydiant cerddoriaeth, Gŵyl Summit, yn y Gate, Caerdydd 02/03/23: “Cerddoriaeth O Gymru: Arloesi newid”. Mae’n arddangosfa gelf ryngweithiol, amlsynhwyraidd sy'n eich gwahodd i gamu ar y llwyfan, tu ôl i’r llen ac i ddarganfod y byd o arloesi, dargyfeiredd diwylliannol, arweinwyr y dyfodol a'r newidwyr sy'n gwneud marc ar y diwydiant cerddoriaeth Gymreig.
Disgwyliwch eich clustiau i lenwi efo seinweddau ymgollu a gyfansoddwyd gan gerddor dronau amgylchynol arbrofol, PLEASE CLOSE YOUR EYES, tra byddwch yn arsylwi gweithiau artistig amrywiol wedi'u curadu, telynegiaeth a barddoniaeth yn arddangos dehongliadau personol o ein thema arddangosfa ‘Cerddoriaeth O Gymru: Arloesi newid’.
Ond yn bwysicach ‘to, rydym yn eich annog i sylweddoli bod newid yn dechrau gyda chi. Bydd yr arddangosfa yn eich cyflwyno â chyfle i ddod a’ch gwaith, geiriau, celf a phethau cofiadwy i ychwanegu at yr arddangosfa ac i rannu eich dehongliad o’n thema. Bydd eich casgliadau yn trafaelu trwy benwythnos Gŵyl Summit, i alluogi cynulleidfaoedd i adio i’r darn celf ac i dyfu - y canlyniad bydd creu darn celf gymunedol bydd yn aros yn Nyddiau Du (Canol Dinas, Caerdydd) am y mis sy’n dilyn i ysbrydoli ac i’w fwynhau.