top of page
Untitled design (18).png

Beth yw The Young Promoters Network?
 

Mae Beacons Cymru yn gyffrous i gyhoeddi bod Young Promoters Network (YPN) yn dychwelyd. Wedi'i sefydlu yn Rhondda Cynon Taf yn 2010, mae'r Rhwydwaith wedi lansio nifer o yrfaoedd yn y diwydiant cerddoriaeth trwy ddatblygu sgiliau allweddol mewn peirianneg sain, rheoli digwyddiadau, hyrwyddo, ffotograffiaeth, a llawer mwy.


Nod YPN yw grymuso pobl ifanc trwy ddarparu set sgiliau newydd iddynt, gan gynyddu eu cyfleoedd gyrfa o fewn y sectorau cerddoriaeth fyw tra'n hybu hunan-barch a hyder. Daeth y prosiect i Gymru gyfan yn 2022 a chefnogodd 8 o bobl ifanc ledled Cymru. Bydd yn dychwelyd yn 2023 gyda’r nod o chwalu rhagor o rwystrau i bobl ifanc ledled Cymru yn eu cymunedau lleol.

 

Bydd YPN yn cynnig cyfle i chwe pherson ifanc, 18-25 oed, o bob rhan o Gymru, i ddatblygu eu sgiliau fel hyrwyddwyr, cael mynediad i rwydweithiau diwydiant newydd a chynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw.

 

Yr hyn y mae'r prosiect yn ei ddarparu;

> Cyfle i ddatblygu sgiliau newydd mewn rheoli digwyddiadau byw.

> Cyllid i dalu costau cynnal digwyddiad.

> Mynediad i rwydwaith newydd o gyd-hyrwyddwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.

> Hyfforddiant proffesiynol, mentoriaeth a chyngor 1-2-1 ar gyfer eich datblygiad personol eich hun.

> Mynediad i ddigwyddiad arddangos cenedlaethol ym mis Chwefror 2024.


Yn gyffredinol, darparu’r offer i ddechrau eu teithiau fel hyrwyddwyr cerddoriaeth fyw, creu cymunedau newydd, a rhoi sylw i artistiaid/bandiau o fewn y cymunedau hynny.

 

Mae YPN yn gwybod nad oes dim byd yn lle profiad uniongyrchol i helpu pobl ifanc i gyflawni ac rydym yn falch o ddarparu'r profiad hwnnw!

incubator_black-01.png
bottom of page