
ENGLISH


FUTUR DISRUPTER
Rhaglen ddatblygu yw Future Disrupter a anelir at gefnogi darpar reolwyr prosiect ifanc (18-30).
Mae'r rhaglen yn llawn amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy, arweiniad proffesiynol a chyfleoedd diwydiant, i gyd wedi'u hanelu at helpu a gyrru unrhyw reolwr prosiect sydd ar ddechrau neu yng nghanol ei gyrfa.
Mae rhaglen Future Disrupter yn helpu i gryfhau llwybr talent gweithwyr proffesiynol y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru drwy ddarparu cymorth hanfodol i bobl ifanc sydd ag angerdd am gerddoriaeth a rheoli prosiectau.
Mae’r rhaglen chwe mis yn helpu i ddatblygu sgiliau allweddol ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol, ochr yn ochr â gwahoddiad i ymuno â rhwydwaith diwydiant newydd gyda chyngor proffesiynol.
P'un a ydych am reoli prosiect cychwynnol o fewn y celfyddydau, rheoli prosiect cerddoriaeth neu am wneud cais am swydd rheolwr prosiect o fewn sefydliad - dyma'r pecyn cychwynnol hanfodol.
Cliciwch yma i ddod yn aelod o Beacons Cymru heddiw.