Cwrdd â'r tîm: Panic Shack 'Beth arall sydd ei angen heblaw y tiwns?'
Dydd Iau Mawrth 2 - 2:45pm - 3:30pm - The Gate, Prif Ystafell
Mae Panic Shack yn un o'r bandiau mwyaf llwyddiannus y flwyddyn ddiwethaf o Gymru, o brif sioeau sydd wedi gwerthu mas, cael eu henwi yn yr NME 100 i setiau yn Reading a Leeds a mwy. Mae Panic Shack yma i aros!
Mae’r sgwrs fanwl hon yn ymwneud â’u taith fel band a rhai o’r aelodau creadigol y tu ôl i’w llwyddiant hyd yn hyn. Byddwn yn trafod sut maen nhw wedi hoelio eu delwedd a’u brandio fel un o fandiau mwyaf cŵl yn y DU, sut maen nhw’n gwneud y mwyaf o bob cyfle a gyflwynir a sut mae eu dull DIY wedi llywio eu hethos a’u penderfyniadau.
Byddwn hefyd yn chwalu rhagdybiaethau amdanynt a sut maent wedi delio â negyddiaeth yn eu ffordd unigryw wrth iddynt dyfu ar eu taith hyd yn hyn. Mae'r sgwrs yma'n hollbwysig i unrhyw artistiaid, rheolwyr a thimau artistig creadigol.
Amdanom Panic Shack
Roedd Romi, Sarah, Emily, a Meg wedi cael llond bol ar gerddoriaeth fel 'clwb aelodau yn unig' ar ei orau a ffalocrasi (phallocracy) ar ei waethaf, felly penderfynon nhw i wneud rhywbeth amdani. Croeso, Panic Shack.
Wedi'u harfogi ag geiriau chyffro a ffraeth a hooks llofrudd, chwalant trwy sîn cerddoriaeth y D.U. gyda thon o sŵn clust-crensian. Gan adeiladu yn syth eu henw da am eu sioeau byw amrwd, di-ymddiheuriad a chaneuon eithriadol, mae Panic Shack yn profi bod DIY yn ei wneud yn well.
Ers eu sefydlu mae'r pumawd pync Cymraeg hwn wedi bod yn ddi-stop. Efo cefnogaeth o BBC Radio 1, BBC Radio 6 Music, Huw Stephens, Jack Saunders, Radio X, Bob Vylan, a PRS, mae’n glir bod y band yma wedi dechrau rhywbeth arbennig. Wedi chwarae cymalau mawreddog yn barod yn Green Man Festival, Liverpool Sound City, Cardiff Castle, a 2000 Trees Festival, a hefyd wedi ymuno â bandiau fel The Wytches, Grandma's House, a Buzzard Buzzard Buzzard ar lwyfannau ar draws y DU, mae Panic Shack dim ond yn mynd i barhau i greu cerddoriaeth heriol sy’n chwalu’r ddaear (tan, wrth gwrs, maen nhw’n ddigon gyfoethog i sipio siampên ar ôl cymryd dip bach yn eu pwll nofio yn eu plastai).