top of page

Gwobrau Youth Music 2023

Pleser yw hi i gyhoeddi ein bod wedi derbyn enwebiad am wobr ‘Outstanding Project of the Year’ yng ngwobrau Youth Music 2023!



Fe aeth y tim draw i theatr Troxy, Llundain a gyfer y seremoni, lle roedd perfformiadau gwych gan Richard Carter, Tree Boy & Arc, Kindelan, Alt Blk Era, ac eraill!


Roedd y lle’n llawn talent o bob cwr o Gymru, Lloegr, a’r Alban, ac roeddem yn hapus dros ben cael bod yn rhan o’r noson.


Llongyfarchiadau i’r ennillwyr.. Un o aelodau’n prosiect ‘Future Disrupter’ yn 2022, Owain Elidir Williams (Klust), yn rhoi Cymru ar y map gan ennill y wobr ‘Rising Star (industry)’!


Llongyfarchiadau i James Jones, sydd wedi gweithio gyda Lab 7 yn y gorffennol, am ennill y wobr ‘Best Music Producer’!


Dyma fo’n dweud ambell air tra’n casglu ei dlws..

Os hoffech chi weld beth wnaethom yn ystod ein trip i’r gwobrau, ewch draw i’n tudalen Instagram.


2 views
bottom of page