ATSEINIO - ONE DAY CONFERENCE ON YOUTH MUSIC IN WALES
DYDD MERCHER CHWEFROR 21 - 9.30AM - 3.00PM - UTILITA ARENA
Bydd Atseinio yn dod â phawb ynghyd sydd â rhan ym maes cerddoriaeth ieuenctid yng Nghymru mewn dadl ar draws y sector ar sut i greu Cymru lle gall cerddoriaeth rymuso pob bywyd ifanc.
Byddwn yn trafod beth sy'n bwysig am gerddoriaeth i bobl ifanc yng Nghymru a beth yw eu rhwystrau. Byddwn yn ystyried sut i greu a gwella llwybrau dilyniant i'r diwydiant cerddoriaeth a beth yw'r camau nesaf i'r sector.
Bydd gweithdai ymarferol hefyd yn edrych ar arferion gorau wrth gyflwyno prosiectau
cerddoriaeth ieuenctid a llawer iawn o gyfleoedd i rannu syniadau, a rhwydweithio.
Bydd y diwrnod yn cael ei arwain gan bobl ifanc a bydd yn agored i bawb sydd â diddordeb - cerddorion ifanc o bob oed, yn ogystal â sefydliadau ieuenctid, sefydliadau cerddoriaeth, cynghorau, cyllidwyr ac unrhyw un sy'n cefnogi’r sector, yn gweithio ym myd cerddoriaeth, neu’n dyheu i weithio ynddo.
Bydd cinio bwffe yn cael ei ddarparu.