top of page
ARDDANGOSFA CWIAR AM BYTH
DYDD GWENER CHWEFROR 23 - 6.00PM - 10.30PM - THE SUSTAINABLE STUDIO
Trwy gyfrwng celf, ffasiwn a pherfformio, bydd ein harddangosfa gloi yn archwilio themâu
​
-
Mynegiant traws a rhyw nad yw'n cydymffurfio
-
Ffasiwn cwiar a'i effaith ar y diwydiant miwsig.
-
Cwiar, Llawenydd a Hanes Cymru
Bydd gosodiadau celf yn arddangos amrywiaeth o dalent cwiar Cymreig, gyda gweithiau yn archwilio rhywedd, llawenydd LHDTC+ a mwy. Trwy ffasiwn, bydd yr arddangosfa yn dangos y gorgyffwrdd rhwng miwsig, ffasiwn a rhywedd, gan arddangos y ffyrdd amrywiol y mae LHDTC+ yn arbrofi a chwarae gyda lluniadau rhywedd. Ni fyddai’r noson yn gyflawn heb berfformiadau byw gan rai o’r goreuon sydd gan y sîn LHDTC+ Gymreig i’w cynnig, o blith llu o ddisgyblaethau artistig.
bottom of page